Neidio i'r prif gynnwys

Yr hyn a wnawn

Rydym yn grwp sy’n cynrychioli materion ein trigolion i awdurdodau iechyd, Heddllu Gogledd Cymru, a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae rhai ohinynt yn mynychu ein cyfarfodydd.
Mae Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru, asiantaethau cenedlaethol a rhanbarthol, a’r gwasanaethau cyhoeddus yn ymgynghori a ni’n rheolaidd ar ystod eang o bynciau. Gwnawn sylwadau ac argymhellion ar newidiadau a allai effeithio ar ein hardal. Rydym yn rhoi rhoddion ariannol i wahanol sefydliadau ac ystyrir ceisiadau mewn cyfarfodydd trwy gydol y flwyddyn. Fel Cyngor Cymuned, rydym yn gyfrifol am:

  • Feinciau
  • Llochesi bws
  • Llwybrau troed
  • Hysbysfryddau
  • Mynwent Picton
  • Ardaloedd chwarae a chynlluniau
  • Goleuadau stryd

Mynwent Picton

Mae’r Cyngor Cymunedol yn berchen ar yn gweinyddu mynwent Picton. Pob ymholiad i’r clerc.

Ardaloedd chwarae a chynlluniau

Rydym wedi cyfrannu arian cyfatebol tuag at gynlluniau chwarae haf yn Ffynnongroyw, Gronant, Gwespyr a Trelogan. Rydym wedi cyfrannu arian at wella mannau chwarae Cyngor Sir Fflint yn ein pentrefi.

Llwybrau cyhoeddus

Cyfrifoldeb Cyngor Sir y Fflint yw llwybrau cyhoeddus, rydym yn tynnu eu sylw at rwystrau, yr angen am arwyddion gwell a gwell camfeydd. Ymgynghorir a ni ar faterion eraill yn ymwneud a llwybrau troed ar draws ein hardal.

Goleuadau stryd

Rydym yn berchen ar yn cynnal dros dri chant o’r goleuadau stryd colled isel 35w wedi’u goleuo o’r cyfnod tan y wawr. Mae’r ardaloedd hyn yn cael eu cynnal ar wahan gan Gyngor Sir Y Fflint:

  • Ffynnongroyw, Maes Owen a phrif lon
  • Gronant, stad tai a datblygiadau Newydd
  • Penyffordd, Maes Emlyn a Ffordd Rhewl Fawr
  • Trelogan, stadau newydd

Ceisiadau cynllunio

DS: Mae’n bwysig gwybod bod ein Cyngor Cymuned yn ymgynghori ar geisiadau cynllunio ac yn gwneud sylwadau ac argymhellion i Gyngor Sir y Fflint. Nid ydym yn awdurdod cynllunio ac nid ydym yn penderfynu ar geisiadau cynllunio.


Next meeting

19:30
Thursday
January 11, 2024

Ysgol Bryn Garth,
Maes Emlyn,
Pen-y-ffordd,
Holywell, CH8 9JA

Cyfarfod nesaf

19:30
dydd Iau
January 11, 2024

Ysgol Bryn Garth,
Maes Emlyn,
Pen-y-ffordd,
Holywell, CH8 9JA